SL(6)290 – Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Rhif 4) (Cymru) 2022

Cefndir a diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989 ("y prif Reoliadau"), sy'n darparu ar gyfer codi ac adennill ffioedd am wasanaethau perthnasol a ddarperir o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 i bersonau penodol nad ydynt yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig. 

Mae rheoliad 2 yn ychwanegu Malta a Beilïaeth Guernsey at y rhestr o wledydd neu diriogaethau y mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gytundeb cilyddol â hwy yn Atodlen 2 i’r prif Reoliadau.

Gweithdrefn

Negyddol

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd. 

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodir y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Nodwn na fu unrhyw ymgynghori ar y Rheoliadau hyn. Yn benodol, nodwn y paragraff a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:

“There is no statutory duty to consult prior to making the recommendations. It is considered that the proposed amendments do not require consultation as they are implementing UK international agreements which apply to the UK as a whole and thereby Wales is obliged to implement and observe them.”

2.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mae Rheol Sefydlog 15.4 yn ei gwneud yn ofynnol i bob dogfen a osodir fod yn ddwyieithog "cyn belled ag y bo'n briodol o dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol." Nodwn nad yw'r Memorandwm Esboniadol ar gael yn Gymraeg. A all Llywodraeth Cymru roi esboniad?

Ymateb Llywodraeth Cymru

Pwynt Craffu ar Rinweddau 2:

Rhoddir blaenoriaeth i gyhoeddi Memoranda Esboniadol ar gyfer is-ddeddfwriaeth yn Gymraeg (yn unol â Safon 47 o Safonau’r Gymraeg). Cyhoeddir fersiwn Gymraeg os bydd pwnc y Memorandwm Esboniadol yn awgrymu y dylai fod ar gael yn Gymraeg, neu os bydd y gynulleidfa a ragwelir yn disgwyl gweld fersiwn Gymraeg. Yn yr achos hwn, barnodd Llywodraeth Cymru fod fersiwn Gymraeg o’r Memorandwm Esboniadol yn ddiangen oherwydd natur gyfyng a phenodol y Rheoliadau a’r gynulleidfa darged fach (h.y. Byrddau Iechyd Lleol Cymru).

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

28 Tachwedd 2022